Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Gair o Groeso
Croeso i wefan newydd Ysgol Uwchradd Bodedern, yma byddwch yn gallu dal i fyny efo’r newyddion diweddaraf ynghyd a llwyddiannau’r ysgol.
Ysgol uwchradd 11-18 oed ym mhentref Bodedern yw Ysgol Uwchradd Bodedern, sy'n addysgu'r mwyafrif helaeth o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy hynny rydym yn ymfalchïo yn y fraint o ddatblygu plant ac oedolion ifanc gogledd yr ynys ac ynys Cybi yn ddinasyddion dwyieithog.
Ein nod fel ysgol yw sicrhau fod yr holl ddisgyblion a myfyrwyr a ddaw atom yn cyflawni eu potensial ac yn ein gadael yn ddinasyddion moesol, egwyddorol a pharchus gyda’r sgiliau i gyfrannu’n llawn at gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain.
Mae tîm o athrawon a staff cefnogi Ysgol Uwchradd Bodedern yn gwbl ymrwymiedig i wneud gwahaniaeth i fywydau’r disgyblion dan ein gofal, a chynigiwn gwricwlwm eang, amrywiol a heriol ar gyfer pob oedran.
Yn sicr, pan fydd yr amodau yn caniatáu unwaith eto bydd y disgyblion yn mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol er mwyn datblygu eu diddordebau ehangach a chyfoethogi eu bywydau. Rydym yn argyhoeddedig fod gan bob disgybl yn yr ysgol botensial aruthrol a gweithiwn yn angerddol i feithrin y talentau hyn.
Rwy’n falch iawn o’r fraint o gael bod yn bennaeth ar Ysgol Uwchradd Bodedern, yn enwedig a minnau yn hogyn o’r pentref ac yn gyn-disgybl fy hun. Rwy’n hynod ffodus o gael cyd weithio gyda thîm ymroddedig o staff, disgyblion a rhieni. Dim ond trwy’r cydweithio hwn y gellir sicrhau’r awyrgylch cadarnhaol yma er mwyn i ni gyflawni’n gweledigaeth fel ysgol gyda phawb yn dysgu.
Gan ddiolch o galon i chi am eich cefnogaeth i’r ysgol a dymuniadau gorau i chi gyd.
Gyda’n gilydd fe wnawn gyrraedd ein potensial.
Paul G S Matthews-Jones
Pennaeth