Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

Cyngor Ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Bodedern yn cymryd balchder yn ei disgyblion ac mae llais y disgybl yn chwarae rhan allweddol yn rhediad a chyfeiriad yr ysgol.

Un ffordd mae staff yr ysgol a'r llywodraethwyr yn clywed llais y disgybl ydi drwy'r Cyngor Ysgol. Ceir cynrychiolaeth etholedig o bob blwyddyn i ffurfio'r cyngor ac maent yn rhan allweddol o fywyd yr ysgol. Yn cyfrannu tuag at benderfyniadau strategol ar sut mae'r ysgol yn cael ei rhedeg i waith a phroffil yr ysgol yn y gymuned.

Defnyddir y canllawiau hawliau plant UNICEF a chynllun Llysgenhadon Comisiynydd Plant Cymru fel sail i egwyddorion y cyngor. Gan mai cael eu hethol gan gyd-ddisgyblion fydd aelodau'r Cyngor Ysgol, gallwn eich sicrhau bod cynrychiolaeth o bob oed, cefndir a gallu ar y cyngor.

Prif Swyddogion

Prif swyddogion llun

Prif Swyddogion 2024-2025

Cyngor Ysgol