Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma
Newyddion
Mwynhewch y gwyliau!
Swydd Wag
Llongyfarchiadau mawr iawn i Lily, blwyddyn 10 ar ennill Rhagoriaeth yn ei arholiad Gradd 2 Canu. Da iawn chdi!
Holiadur Rhieni: YMATEB ANHYGOEL! DIOLCH YN FAWR ....
Diolch i chi am yr ymateb anhygoel i’r holiadur, anhygoel o ran eich cefnogaeth i’r ysgol ond hefyd o ran nifer sydd wedi ymateb. Cafwyd 326 ymateb ynghyd a 179 sylw penodol. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn mynd drwy bob un o’r sylwadau yma yn bersonol ac yn rhannu gyda chi sut y byddwn yn addasu ac esblygu ein darpariaeth. Byddaf hefyd yn rhannu gyda chi yn llawn y data i gwestiwn 1, 2 a 3.
Mae Mia o flwyddyn 11 wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o garfan pêl-droed Cymru o dan 17 y flwyddyn nesaf. Mae hi wedi gweithio’n eithriadol o galed dros y blynyddoedd ac rydym yn falch iawn ohoni. Fodd bynnag, mi fydd ganddi benderfyniad anodd i'w wneud gan eu bod am iddi symud i lawr i'r de i fynychu Coleg y Cymoedd ym mis Medi. Pob lwc gyda pha bynnag benderfyniad wnei di.
DIWEDDARIAD PWYSIG
Oherwydd cynnydd mewn achosion COVID-19 yng nghymunedau Ynys Môn, ac yn dilyn trafodaethau a chytundeb rhwng yr Awdurdod Lleol a Phrifathrawon Ynys Môn, penderfynwyd na fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb tan o leiaf 18 / 01/2021.
Bydd gwersi yn parhau ar-lein.
Ein nod yw croesawu pob disgybl yn ôl i'r ysgol o'r 18fed ymlaen - fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn dilyn asesiad o'r sefyllfa yn agosach at yr amser.
Byddwn yn gwahodd yr holl ddisgyblion yn ôl i adeiladau'r ysgol pan fydd amodau yn caniatau.
Yn y cyfamser, bydd gofal ar gael i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol yn yr ysgolion unigol.
Diweddariad ail-agor
Yn dilyn trafodaethau a chytundeb gyda'r Awdurdod penderfynwyd, oherwydd yr amgylchiadau cyfredol, na fydd disgyblion Blynyddoedd 11-13 yn dychwelyd i'r ysgol Dydd Mercher 6 Ionawr 2021. Bydd gwersi yn parhau ar lein yn unol â'r drefn arferol. Anelir at sefyllfa lle fydd pawb yn dychwelyd o'r 11eg o Ionawr 2021 ymlaen ond fe fydd hyn yn cael ei adolygu yn dilyn asesiad o'r sefyllfa ganol wythnos nesaf.
Felly
HMS 04.01.21 & 05.01.21
Gwersi ar lein i bawb: Blynyddoedd 7-13 06.01.21-08.01.21
Drym rol...fideo 2 yn cael ei rhyddhau 'fory. Byddwch yn barod, mae hon yn gracar!
Ceisio cadw pawb yn Boded yn ddiogel. Masgiau o safon uchel wedi eu rhannu i bawb heddiw.
Gwybodaeth gan Cyngor Sir Ynys Môn
Archebion Lluniau Ysgol
Diwrnod Di-Wisg Ysgol
Dydd Gwener
13/11/20
03/11/20
Bydd yr ysgol yn ail-agor dydd Mawrth, 3ydd o Dachwedd 2020 i ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8 yn unig.
Bydd disgyblion blynyddoedd 9-13 yn dilyn eu hamserlen O ADREF.
Gwiriwch Google Classroom am fanylion.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros yr hanner tymor diwethaf. Cadwch yn ddiogel dros y gwyliau.
Diwrnodau HMS: 23/10/2020 & 02/11/2020 YSGOL AR GAU I BOB DISGYBL
Lluniau Blwyddyn 7 a 12 yn cael eu tynnu dydd Mercher 21/10/20. Pawb i fod mewn gwisg ysgol lawn os gwelwch yn dda. Bydd yr archebion i gyd ar lein eleni.
Rheoli Pryder.
Cafwyd p'nawn llwyddiannus iawn efo criw TGAU Blwyddyn 10 Addysg Gorfforol heddiw yn gwneud profion ffitrwydd. Da iawn chi!
Croeso mawr i’n holl ddisgyblion BLWYDDYN 7 sy’n ymuno efo ni heddiw am y tro cyntaf! Croeso i deulu a chymuned Boded!❤️
Prydau Mynd Allan ar gael drwy ddilyn y linc isod. Dyddiad cau ceisiadau 05/07/2020.
DATGANIAD I RIENI
“Mae'n bosib eich bod newydd glywed cyhoeddiad swyddogol gan Cyngor Sir Ynys Môn yn datgan bod ysgolion yn “ail agor” am wythnos o ddydd Llun 13.7.2020 tan ddydd Gwener 17.7.2020 er mwyn cynnig y cyfle I BOB UN disgybl o bob blwyddyn gael sesiwn ymgysylltu gyda’u hathrawon a chyd ddisgyblion cyn gwyliau’r haf.
Mae ein paratoadau o ran diogelwch yn eu lle, fel yr ydych yn gwybod, ac rydym yn croesawu’r penderfyniad a’r cyfle yma. Byddwch yn hyderus felly y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau’r cyfle gorau a mwyaf diogel posib i’ch plant ddod atom i baratoi am yr haf a mis Medi. Byddwn yn cyfathrebu efo chi ymhellach gobeithio yn ystod y prynhawn gyda manylion y cynnig ac yn gofyn i chi gwblhau holiadur gwybodaeth unwaith eto er mwyn ein cynorthwyo i baratoi’n drylwyr. Mwy o wybodaeth i ddilyn.”
Yr Ystafell Gerdd yn edrych yn wych! Diolch i Miss Sara Hughes a Mr Paul Magee am eu gwaith! 🎶🎵🎶🌈💙🌈
Information for Parents