Cinio Ysgol am Ddim Cliciwch yma

Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Hwb
  • School Gateway

Cyswllt Cynradd / Uwchradd

Rydym yn croesawu disgyblion aton ni o saith Ysgol Gynradd o fewn ein dalgylch naturiol, sef:

Yn ogystal â’r ysgolion hyn, rydym yn croesawu disgyblion o ddalgylchoedd eraill.

Ymweliadau â’r ysgolion cynradd

Bydd Arweinydd Cynnydd Blwyddyn 7 yn ymweld â’r ysgolion cynradd ddwywaith o leiaf yn ystod y flwyddyn ysgol. Yn amlwg mae’r ymweliadau yn cynnwys yr ysgolion o fewn ein dalgylch, ond hefyd yr holl ysgolion hynny ble mae’r disgyblion sydd wedi cofrestru i gychwyn yn Ysgol Uwchradd Bodedern ym mis Medi.

Bydd yr ymweliad cyntaf yn digwydd ym mis Medi ar gychwyn y flwyddyn ysgol. Yn ystod yr ymweliad, byddaf yn canolbwyntio’n bennaf ar hysbysu ein noson agored, sydd fel rheol ar ddiwedd mis Medi. Bydd pob disgybl o flynyddoedd 4 i fyny yn derbyn taflen wybodaeth am yr ysgol sy’n cynnwys gwahoddiad i’r noson agored er mwyn profi’r holl wybodaeth sy’n cael ei gyflwyno ar y daflen. Yn ogystal â’r noson agored, bydd Arweinydd Cynnydd blwyddyn 7 hefyd yn sôn am fywyd yn Ysgol Uwchradd Bodedern gan gynnwys yr amrywiaeth eang o weithgareddau a’r llwyddiannau diweddar sydd ar gael iddyn nhw. Bydd y disgyblion wrth eu bodd yn holi am fywyd yr ysgol gan gynnwys holi am aelodau o’u teulu sy’n mynychu neu wedi mynychu yn y gorffennol, heb sôn am eu ffrindiau sydd wedi cychwyn yma. Mae hwn yn gyfle gwych imi gael cychwyn y berthynas allweddol honno yn fuan iawn cyn iddyn nhw ymweld â’r ysgol mewn unrhyw ffordd.

Mae’r ail ymweliad yn cynnwys sgwrs gyda’r athro dosbarth Blwyddyn 6 er mwyn casglu gwybodaeth berthnasol am bob disgybl sy’n trosglwyddo ym mis Medi. Hefyd, bydd yn gyfle gwych i’r Arweinydd Cynnydd gyfarfod y criw fel grŵp llai. Y tro hwn, bydd sgwrs fwy anffurfiol am drefniadau’r tridiau anwytho sy’n digwydd ar ddiwedd tymor yr Haf, tua cychwyn mis Gorffennaf.

Y Cyfnod Anwytho

Yn ystod y cyfnod anwytho bydd y disgyblion yn cael eu gosod yn y dosbarthiadau y byddent ynddyn nhw ym mis Medi. Dyma gyfle gwych iddyn nhw ddod i adnabod y dosbarth cyfan gan gychwyn gwneud ffrindiau o ysgolion gwahanol, yn ogystal â dod i adnabod eu tiwtor.

Yn dilyn y sgwrs eisoes gyda’r athrawon, bydd y disgyblion wedi eu gosod mewn dosbarthiadau gallu cymysg gyda’u ffrindiau o’r ysgolion cynradd, fel bod hynny’n esmwytho’r cyfnod o ymgartrefu ym mis Medi. Bydd amserlen unigol i bob disgybl fel ei fod o/hi yn cael amrywiaeth o wersi a gweithgareddau er mwyn cael blas o fywyd llawn yn Ysgol Uwchradd Bodedern.

Erbyn diwedd y cyfnod mae pawb yn gyfarwydd gyda’u dosbarthiadau, ffordd o amgylch yr ysgol, a threfn o ddydd i ddydd yma, sy’n dra gwahanol i’w hysgolion cynradd. Bydd cyngerdd yn y theatr fel rheol ar brynhawn olaf y cyfnod anwytho, fel ffordd o ddathlu llwyddiant eu hamser byr yma cyn gwyliau’r haf. Pa ffordd well na chael canu a dawnsio yng nghwmni ‘Y Brodyr Magee’!

Darpariaeth / Cefnogaeth

Dyma agwedd sy’n bwysig iawn yma ym Modedern. Rydym yn anelu i sicrhau bod pob disgybl yn hapus ac yn ddiogel yn yr ysgol, sy’n rhoi y sail gadarn iddyn nhw ffynnu yn y gwersi, ac ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae gan bawb diwtor dosbarth sy’n gyfrifol am eu cofrestru ddwy waith y dydd. Dyma gyfle i drafod unrhyw bryderon fel nad oes neb yn gadael y safle gydag unrhyw beth yn eu poeni.

Hefyd, mae gan bob blwyddyn Arweinnydd Cynnydd sy’n gyfrifol am les a chynnydd pob disgybl yn y flwyddyn fel dinesydd yn ein cymuned. Mae’r adran ADY yn gwneud gwaith ardderchog wrth gefnogi rhai sydd angen yr hwb ychwanegol, ac mae’r cynhelydd ar gael i roi cefnogaeth ychwanegol o’r ochr lles. Rydym yma i wrando a chefnogi bob amser ac yn mwynhau cynnal a chefnogi ein disgyblion er mwyn eu paratoi ar gyfer y dyfodol.